Johann Gottfried von Herder
Athronydd,
diwinydd, a beirniad o'r
Almaen oedd
Johann Gottfried von Herder (
25 Awst 1744 –
18 Rhagfyr 1803) a oedd yn brif feddyliwr y mudiad ''
Sturm und Drang'' ac yn ffigur blaenllaw yn
yr Oleuedigaeth yn y gwledydd Almaeneg. Cafodd ddylanwad pwysig ar ddechrau'r cyfnod
Rhamantaidd, a fe'i ystyrir yn gyfrifol am hebrwng damcaniaethau esthetaidd a llenyddol
Johann Wolfgang von Goethe, y brodyr Schlegel, a'r
brodyr Grimm,
athroniaeth iaith Wilhelm von Humboldt,
athroniaeth hanes G. W. F. Hegel,
epistemoleg Wilhelm Dilthey,
anthropoleg Arnold Gehlen, a syniadaeth wleidyddol y
cenedlaetholwyr Slafaidd.
Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3
-
4
-
5
-
6